Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hwn yn gwrs byr hyblyg ar lefel ôl-raddedig sy'n cael ei gyflwyno ar-lein.
Pam fod rhai pobl yn fwy tueddol o weld dirywiad mewn perfformiad nag eraill? Neu, pam y gall lefelau perfformiad amrywio dros amser heb unrhyw reswm amlwg? Mae’r modiwl hwn yn archwilio sut mae personoliaeth, adnoddau seicolegol, emosiynau a gwybyddiaeth yn dylanwadu ar ein gallu i berfformio dan bwysau.
Ar gyfer pwy mae'r Cwrs Byr hwn yn addas?
Mae ein dysgwyr wedi cynnwys pobl o bob rhan o’r DU, ac o bob rhan o’r byd. Mae'r cwrs byr yma'n rhan o'r rhaglen MSc Seicoleg Perfformio (dysgu o bell) ac mae cyn-fyfyrwyr yn cynnwys:
- Hyfforddwyr chwaraeon proffesiynol: Rygbi, Criced, Pêl-droed Gaeleg, a Hyfforddwyr Rhedeg Dygnwch
- Aelodau ‘UK Coaching’
- Athletwyr Elitaidd mewn: pêl-droed, pêl-droed Gaeleg, criced, rygbi a golff
- Cyfarwyddwyr Perfformiad ar gyfer Timau Undeb Rygbi Proffesiynol
- Perfformwyr Opera
- Cerddorion Proffesiynol
- Arweinwyr Busnes
- Uwch reolwyr o sefydliadau fel MasterCard a Facebook
- Criw Cefn Hofrennydd yr RAF
- Rheolwyr traffig awyr
- Swyddogion Heddlu
- Meddygon Teulu ac Anesthetyddion
- Rheolwyr GIG
Pam astudio’r cwrs?
Prif amcan y cwrs hwn yw tynnu sylw at y rôl bwysig y mae gwahaniaethau unigol yn ei chwarae yn y ffordd yr ydym yn ymateb i bwysau ac yn perfformio o dan bwysau. Fel bodau dynol, mae gan bob un ohonom rai llwybrau unigryw i fethiant o dan bwysau a bydd deall y llwybrau unigol hynny ac ymyrryd ar lefel unigol yn helpu i liniaru perfformiadau gwael i raddau.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Cyflwynir y cwrs byr hwn dros gyfnod o 12 wythnos. Fodd bynnag, bydd gennych fynediad i'r holl ddeunydd darlithoedd ar ddechrau'r cwrs a fydd yn eich galluogi i fynd mor gyflym neu mor araf ag y bydd eich amgylchiadau personol yn mynnu.
Y Gofynion Technegol
Cwrs ar-lein yw hwn a gyflwynir trwy Blackboard Ultra. Bydd angencysylltiad sefydlog â’r rhyngrwyd, adnoddau Technoleg Gwybodaeth a chyfrifiadur a meddalwedd cyfoes, meicroffon a chlustffonau neu seinyddion ar y myfyrwyr.
Tiwtor
Dr Stuart Beattie
Mae Stuart yn Ddarllenydd mewn Seicoleg Perfformiad, cyfarwyddwr yr MSc mewn Seicoleg Perfformiad (Dysgu o Bell), Seicolegydd Chwaraeon Cofrestredig HCPC, ac aelod o'r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît (IPEP).
Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys Gwydnwch Meddyliol, Gwydnwch, a Seicoleg Perfformiad yn Gyffredinol.
Bu Stuart yn gweithio fel seicolegydd chwaraeon i Gymnasteg Prydain am bum mlynedd ac mae wedi bod yn ymwneud â phrosiectau gwytnwch ar gyfer Camre Cymru a’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.
Mae prosiectau goruchwylio PhD cyfredol yn cynnwys -archwilio prosiectau Gwydnwch, Gwydnwch Meddyliol, a Pherthnasoedd Triadig gyda chlwb Pêl-droed Manchester City, yn ogystal â goruchwylio ymgeiswyr PhD o fewn y GIG.
Fel rhan o'r MSc Seicoleg Perfformio (dysgu o bell), mae Stuart hefyd yn darparu cefnogaeth oruchwyliol i fyfyrwyr ar draws meysydd Opera, RAF, Busnes, a Hyfforddi Chwaraeon.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd y cynnwys wedi’i seilio ar agweddau ar y canlynol:
- personoliaeth
- sgiliau seicolegol
- gwybyddiaeth
- rheoleiddio emosiynol ac ymddygiadol
- yr amgylchedd hyfforddi
- gwytnwch meddyliol
- ymddygiad meddyliol cadarn wrth hyfforddi a chystadlu
- gwytnwch
- perfformiad.
Bydd y cwrs byr hwn yn eich helpu i archwilio’r cysylltiadau uniongyrchol a rhyngweithiol rhwng personoliaeth, adnoddau seicolegol, emosiynau a gwybyddiaeth wrth baratoi a pherfformio dan bwysau. Gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau (data o holiaduron hunan-adrodd, data arsylwi, data perfformiad, a data cyfweliadau) byddwch yn dylunio ymyriad pwrpasol ar gyfer unigolyn a fydd yn eu helpu i berfformio ar lefel fwy cyson dros amser.
Bydd y deilliannau dysgu’n asesu eich gallu i ddadansoddi gwybodaeth hanfodol trwy driongli dulliau (data perfformiad, data arsylwi, a data o holiaduron) a fydd yn eich galluogi i ddod i gasgliad gwybodus am allu unigolyn i berfformio dan bwysau.
Byddwch yn asesu ac yn gwerthuso proffil seicolegol cleient yn feirniadol mewn perthynas â phersonoliaeth, gwytnwch meddwl, ymddygiad meddyliol cadarn, gwybyddiaeth, hunanreoleiddio a sgiliau seicolegol, ac yn dangos sut y gallai hyn ddylanwadu ar sut maent yn perfformio dan bwysau.
Yn olaf, byddwch yn dangos eich gallu i ddylunio ymyriad sy’n seiliedig ar ymchwil a fydd yn lleihau'r tebygolrwydd o amharu ar berfformiad dan bwysau.
Beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Bydd maes llafur y cwrs byr yn ymdrin â’r canlynol:
- Wythnos 1: Cyflwyniad i’r modiwl a throsolwg o’r asesiadau
- Wythnos 2: Cyflwyniad i Wytnwch Meddyliol
- Wythnos 3: Ymddygiad Meddyliol Cadarn
- Wythnos 4: Datblygu Gwytnwch Meddyliol 1
- Wythnos 5: Datblygu Gwytnwch Meddyliol 2
- Wythnos 6: Seminar byw gyda darlithydd y cwrs (dim darlithoedd)
- Wythnos 7: Personoliaeth a Gwytnwch Meddyliol
- Wythnos 8: Ymyriadau Gwytnwch Meddyliol
- Wythnos 9: Amgylcheddau Hyfforddi
- Wythnos 10: Ymdopi a Gwytnwch Meddyliol
- Wythnos 11: Personoliaeth, Hyfforddi Dan Bwysau, a Throsolwg o’r Modiwl
- Wythnos 12: Seminar byw gyda darlithydd y cwrs (dim darlithoedd)
Cost y Cwrs
Ewch i dudalen Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig er mwyn cael gwybodaeth bellach.
Gofynion Mynediad
Fel arfer bydd rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd 2.ii o leiaf. Rydym hefyd yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn raddedigion ond sydd â chymwysterau proffesiynol amgen neu sy’n gallu dangos o leiaf 3 blynedd o brofiad gwaith perthnasol mewn amgylchedd perfformiad uchel (e.e. fel athletwr, hyfforddwr, cerddor proffesiynol, gweithredwr busnes neu gyllid neu o fewn amrywiaeth eang o swyddi proffesiynol eraill).
Gwneud Cais
Sut i wneud cais
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn dilyn y canllaw cais cam wrth gam gan y bydd hyn yn nodi pa adrannau o'r ffurflen gais sy'n orfodol ar gyfer y math o gwrs rydych am wneud cais amdano ac arbed amser i chi.
Paratowch y wybodaeth ganlynol (mewn dogfen Word):
- Manylion cyflogaeth cyfredol;
- Blynyddoedd o brofiad, a hanes cyflogaeth (lle bo hynny'n berthnasol)
- Enw'r aelod staff a'r sefydliad sydd wedi cymeradwyo eich cyllid ar gyfer y modiwl hwn.
Bydd hyn yn cyflymu'r broses o lenwi'r ffurflen gais.
I wneud cais am y cwrs hwn, mae angen i chi greu cyfrif yn ein PORTH YMGEISWYR
Bydd angen i chi gael mynediad at y cyfeiriad e-bost yr ydych yn ei nodi wrth greu eich cyfrif i'w gadarnhau
Ar ôl creu cyfrif, byddwch yn gweld tudalen gartref gyda sawl tab:
- Personol
- Rhaglen
- Gwybodaeth
- Cyswllt
- Addysg
- Cyflogaeth
- Iaith
- Cyllid
Mae angen i chi gwblhau pob adran cyn cyflwyno'ch cais.
Pan fydd adran wedi'i chwblhau, bydd symbol 'tic' yn ymddangos ar y tab.
- Cliciwch ar 'Ceisiadau nad ydynt yn graddio / Modiwlau Annibynnol', yna dewiswch 'Heb raddio olraddedig'.
- Yn yr adran nesaf, dewiswch Modiwlau a Addysgir nad ydynt yn Graddio mewn Iechyd (NGGT/HEALTH) Cliciwch Cadw a Parhau.
- Ar y dudalen nesaf, y rhagosodiad ar gyfer y cwestiwn cyntaf yw Llawn Amser. Mae'n rhaid i chi newid hyn i 'Ran Amser':
- Nawr mae angen i chi fewnbynnu cod y modiwl: Seicoleg Perfformiad Unigol: y cod yw (JXH-4104). Rhaid cwblhau'r adran hon er mwyn i'ch cais gael ei brosesu.
- Mae angen i chi hefyd nodi'r dyddiad dechrau. Dewiswch eich dewis, yna cliciwch 'Cadw a Parhau'.
- PWYSIG: Nid oes angen i chi ysgrifennu datganiad personol i wneud cais am y cwrs hwn. Yn hytrach, llwythwch y ddogfen i fyny, gan gynnwys gwybodaeth am gyflogaeth, profiad ac addysg rydych wedi'i chreu cyn dechrau'r cais sy'n cynnwys enw eich cyflogwr presennol, nifer y blynyddoedd o brofiad sydd gennych, a'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn. Cliciwch Cadw a symud ymlaen.
Dim ond manylion eich cymhwyster uchaf sydd ei angen arnoch hyd yma, e.e. os oes gennych gymhwyster ôl-raddedig, dim ond hyn y dylech ei gynnwys.
Gofynnir i chi am dystiolaeth o'r cymhwyster. Anfonwch gopi o'ch cymhwyster naill ai os yw'n hawdd ei gyrraedd, neu lanlwythwch y ddogfen Word eto (a baratowyd gennych yn gynharach)
(nid oes angen darparu manylion yma)
Ewch i waelod y dudalen a chliciwch ar 'Nid oes gennyf unrhyw hanes cyflogaeth'. Rydych eisoes wedi paratoi'r wybodaeth yma yn eich dogfen Word
Os ydych yn cael eich ariannu gan AaGIC / Bwrdd Iechyd, atebwch y cwestiynau a ganlyn:
- Sut byddwch chi'n ariannu'ch astudiaethau? Noddedig
- Union enw'r awdurdod cyllido: Bwrdd Iechyd
- Gwlad: Y Deyrnas Unedig
- Rhowch fanylion swm y dyfarniad? Wedi'i ariannu'n llawn.
- Bydd y nawdd yn cynnwys: Ffioedd Dysgu
- A ydych chi wedi derbyn y cyllid hwn? Dewiswch ‘ie’ * Sylwch y bydd gofyn i chi uwchlwytho tystiolaeth o’r cyllid. Os hoffech gadarnhau ‘ie’ i’r cwestiwn hwn, ond nad oes gennych unrhyw gadarnhad ysgrifenedig i’w uwchlwytho, gallwch uwchlwytho’ch ddogfen Word yma eto.
Os ydych yn hunan-ariannu, neu'n cael eich ariannu gan bractis meddyg teulu annibynnol, rhowch yr holl fanylion fel y bo'n briodol