Cipolwg cyflym o'n cyrsiau er mwyn i chi allu cymharu a dod o hyd i'r rhai sy'n addas i chi.
Cipolwg cyflym o'n cyrsiau er mwyn i chi allu cymharu a dod o hyd i'r rhai sy'n addas i chi.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ffarmacoleg llwyddiannus ym Mangor?
- Beth allai wneud i baratoi at astudio Ffarmacoleg ym Mangor?
- Sut ydw i yn gwybod mai Ffarmacoleg ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?
Cyfleoedd Gyrfa
Bydd y rhaglen radd Ffarmacoleg ym Mhrifysgol Bangor yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau fferyllol a biotechnoleg, sefydliadau ymchwil clinigol, sefydliadau gofal iechyd ac ymchwil academaidd. Gall graddedigion ffarmacoleg hefyd fod yn gymwys i gael mynediad graddedig at feddygaeth.
Ymchwil
Mae ymchwil yn ymwneud â meddyginiaethau ym Mhrifysgol Bangor yn cynnwys astudiaethau ffarmacogenetig i ddatblygu cyffuriau canser newydd, treialon clinigol a gwerthusiad economaidd. Mae ein cyraeddiadau’n cael eu cydnabod gan ein llwyddiant diweddar yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (9fed allan o 89 o brifysgolion o ran ymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol neu sy’n arwain y byd).