Fideo - Dysgu ym Mangor
Hyfforddi i fod athro cynradd yng Nghymru a thu hwnt.
Cyfleoedd Gyrfa mewn Addysgu
Bydd ein cyrsiau TAR Cynradd ac Uwchradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiol rolau ym myd addysg, yn ogystal â datblygu sgiliau arwain hanfodol. Ar ôl cwblhau'r cwrs byddwch yn ennill Statws Athro Cymwysedig (QTS) a gydnabyddir ledled Cymru a Lloegr ac sy'n aml yn drosglwyddadwy ymhellach i ffwrdd ar gyfer mynediad i'r proffesiwn dysgu.
Fel myfyriwr graddedig addysg athrawon o Brifysgol Bangor byddwch yn graddio gyda dealltwriaeth fodern, drylwyr o ddysgu ac o arweinyddiaeth addysgol, a wnaiff eich gosod chi ar wahân i athrawon eraill sydd newydd gymhwyso ac a fydd yn llwyfan ragorol ichi ddatblygu eich gyrfa ddysgu mewn byr o dro.
Ein Hymchwil o fewn Addysgu
Yn yr Ysgol Gwyddorau Addysgol, cewch ddysgu am ganfyddiadau ymchwil diweddaraf eich maes a bydd cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri rhyngwladol i gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.
Mae tîm TAR addysg athrawon Bangor yn ymwneud ag ymchwil amrywiol sy'n cyfrannu at fodiwlau'r cwrs, gan gynnwys ymchwil o fri rhyngwladol ar ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd, mentora, Anghenion Addysgol Arbennig ac arweinyddiaeth ysgol.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.