Gwenan Hine
Ysgrifennydd y Brifysgol
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor
Gwenan sydd â goruchwyliaeth strategol ar bob agwedd ar lywodraethu’r Brifysgol gan gynnwys y Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol a holl Is-bwyllgorau’r Cyngor. Yn ogystal, mae’n arwain Swyddfa’r Bwrdd Gweithredol, darparu gwasanaethau cyfreithiol, cydymffurfio â chontractau a gwybodaeth, diogelu ac Atal, ymddygiad a chwynion myfyrwyr, Graddau er Anrhydedd, llywodraethu ymchwil, moeseg, ordinhadau, rheoliadau a pholisïau.
Sera Whitley
Cynorthwyydd Swyddfa Bwrdd Gweithredol
Prif Adeilad, Prifysgol Bangor
Mae Sera yn darparu cefnogaeth weinyddol ar draws yr adran Swyddfa Llywodraethu. Mae’n cefnogi amrywiaeth o brosesau ar draws sawl maes o’r Gwasanaeth, gan gynnwys gwasanaethau a chontractau cyfreithiol, llywodraethu ymchwil, uniondeb a moeseg, rheoli polisi a threfnu hyfforddiant staff ar gyfer tîm y Swyddfa Llywodraethu. Yn ogystal, mae Sera yn cefnogi’r Ysgrifenydd y Brifysgol gyda phroses Penodiadau er Anrhydedd a chwifio baner y brifysgol mewn coffadwriaeth, yn ogystal â sicrhau bod tudalennau gwe’r Swyddfa Llywodraethu yn cael eu diweddaru’n llawn ac ar gael yn ddwyieithog.