Lluniau
Mae gan Cysylltiadau Corfforaethol a Marchnata gasgliad o luniau sy’n berthnasol i recriwtio myfyrwyr sydd wedi cael eu tynnu er mwyn eu defnyddio mewn deunyddiau printiedig ac ar-lein.
E-bostwich images@bangor.ac.uk os gwelwch yn dda gan nodi’r math o luniau rydych eisiau (e.e. myfyrwyr yn y llyfrgell, myfyrwyr mewn darlith) ac ar gyfer beth fydd y lluniau yn cael eu defnyddio.
Defnyddio’r Lluniau
Rhaid i’r lluniau gael eu defnyddio o fewn 2 flynedd. Nodwch hefyd os gwelwch yn dda, bod y bobl yn y lluniau wedi arwyddo ffurflen ganiatâd sy’n rhoi eu caniatâd i’w lluniau gael eu defnyddio gan Brifysgol Bangor yn unig, felly peidiwch â’u pasio ymlaen i unrhyw drydydd parti os gwelwch yn dda.